Tudalen ystafell y babanod – 6 wythnos – 14 mis
Mae ein staff cymwys a phrofiadol yn sicrhau bod eich babanod yn derbyn gofal ymatebol, cariadus a sylwgar.
Rydym yn sicrhau bod holl anghenion sylfaenol eich baban yn cael eu diwallu, gan ddilyn eich patrymau unigol chi, a gweithio gyda chi i ddarparu amgylchedd cartrefol i bawb.
Rydym yn darparu profiadau dysgu yn cynnwys chwarae blêr ac amser synhwyraidd, ac yn sicrhau bod yr holl bethau hyn yn rhan hanfodol o ddiwrnod eich baban.
Rydym yn mynd â’r babanod am dro bob dydd ac yn mynd â hwy ar dripiau misol sy’n cysylltu â’n themâu misol.
Rydym hefyd yn darparu cyfleusterau cyfforddus i’r rhieni ddod i mewn a bwydo eu plant ar y fron, os byddant yn dymuno gwneud hynny.
- Mae’n rhaid sicrhau bod babanod sy’n dechrau pan fyddant yn 6 wythnos oed wedi cael eu cyfres gyntaf o bigiadau.